Gwnaeth grŵp o ddisgyblion Ysgol Gyfun Rhydywaun cystadlu yng nghystadleuaeth Tomorrow’s Engineers EEP Robotics Challenge, ble wnaethpwyd ymgymryd â sialens newydd eleni gyda’r thema’n dathlu canmlwyddiant yr RAF. Dewiswyd tîm o
10 disgybl sef Nia Davies, Lloyd Jones, Lexie Williams,
Tayleigh Rees, Emyr Lloyd, Joel Lewis, Eleri Griffiths, Alys Watkins, Eleanor Hope a
Menna Morris. Penderfynodd y deg
ohonynt fabwysiadu enw’r tîm o lynedd sef ‘Optimus Primates 2.0’.
Dechreuodd y gwaith ar ddiwedd
mis Medi gyda’r tîm yn datblygu strategaeth ar gyfer y sialens
robot ac ymchwilio deunydd ar gyfer y cyflwyniad. Braf oedd gweld brwdfrydedd a dychymyg Joel,
Nia, Emyr, Lloyd a Tayleigh wrth iddynt ddyfeisio robot a oedd yn medru datrys
problemau gwahanol ar fwrdd y sialens, e.e. datblygu teclyn ar y robot Lego
Mindstorm i godi awyren a’i gario o un ochr o’r bwrdd i’r llall, neu ddyfais
digon sensitif i godi dyn bach lego’n ddiogel heb ei golli na’i hollti’n ddau. Tra
roedd hyn yn digwydd roedd Eleri, Lexie, Alys, Menna ac Eleanor wrthi’n
datblygu cyflwyniad ac yn ymarfer eu sgiliau cyflwyno’n frwd. Yn ogystal, roedd Emyr yn creu ail robot a
oedd yn medru rasio pellter penodol yn yr amser cyflymaf posib. Yn ystod y rownd gyntaf, sef rownd ranbarthol Cymru, gyda 8 ysgol arall yn cystadlu yng Nghymru am y
tro cyntaf, roedd bod yn RAF St. Athan, gyda dathliad yr RAF yn beth eithaf
arbennig. Roedd y cystadlu’n frwd gydag Emyr
yn curo’r robot cyflymaf, y tîm cyflwyno’n gwefreiddio’r panel a’r sialens
robot yn mynd yn arbennig o dda. Roedd
ymarfer y tîm
wedi talu’i ffordd ac fe enillon nhw rownd Cymru, felly maent yn Bencampwyr Tomorrow’s Engineers EEP
Robotic Challenge Cymru! Yn ystod y rownd derfynol yn Birmingham, ar ôl ymarfer di-baid, roedd cyrraedd yr NEC am yr
ail flwyddyn yn olynol yn dipyn o lwyddiant yn ei hun. Cyflwynodd y merched gan dderbyn canmoliaeth
uchel gan rhai o swyddogion Lego o Denmark; daeth Emyr yn ail wrth iddo rasio’i
gar 8m mewn amser o 3.47 eiliad a chwblhawyd y sialens robot ar y bwrdd gyda
dim ond 3 neu 4 ysgol arall yn ei gwblhau allan o 46 ysgol. Gwobrwywyd y tîm am eu perfformiad gyda’r robot ac wrth
gyfrifo’r holl bwyntiau dyfarnwyd y 5ed safle iddynt. Mae bod yn y 5ed
safle ym Mhrydain yn dipyn o gamp ac yn
berfformiad arbennig wrth ystyried y gystadleuaeth, sef 46 ysgol arall ar y
dydd, 480 ysgol a oedd wedi ymgeisio a tua 8,000 o blant! Mae’r ysgol yn falch dros ben o’r unigolion yma a hoffwn fanteisio ar y cyfle i ddiolch yn gyhoeddus i Mr Kevin Davies, Mrs Catryn Brace a’r unigolion a’r sefydliadau a oedd wedi noddi’r disgyblion ar eu taith i Birmingham. |
Newyddion >