Braf oedd cael cyfle i wobrwyo a hel atgofion gyda Blwyddyn 11 brynhawn Iau, Mai 18 yn eu Seremoni Diwedd Blwyddyn. Roedd llawer o chwerthin wrth weld lluniau ohonynt ym Mlwyddyn 7 a 8 a gwrando ar atgofion eu tiwtoriaid dosbarth. Cafodd nifer sylweddol o'r flwyddyn eu gwobrwyo am agweddau amrywiol o'u cyfraniad yn ystod y flwyddyn. Dyma rai lluniau o'r prynhawn a'r rhai gafodd eu gwobrwyo. Dymunwn bob lwc iddynt yng ngweddill eu harholiadau ac edrychwn ymlaen i weld llawer iawn o'r flwyddyn yn dychwelyd ym mis Medi ar gyfer y Chweched Dosbarth. |
Newyddion >