Yr wythnos nesaf (27.1.20 - 31.1.20) fydd wythnos Gwrth-Fwlio yn Rhydywaun. Bydd yr wythnos yn cynnwys amryw o ddigwyddiadau, er mwyn dysgu a chodi ymwybyddiaeth ein disgyblion ar faterion sy'n ymwneud â bwlio. Bydd y gweithgareddau hyn yn cynnwys gwasanaethau, gweithgareddau dosbarth a gweithdai mewn partneriaeth â'r asiantaeth @BulliesOut. Bydd y gweithdai yn hyfforddi a sefydlu grŵp mentor cymheiriaid newydd yn yr ysgol, er mwyn cynorthwyo staff i gefnogi disgyblion yn Rhydywaun. Hoffem hefyd eich gwahodd chi i seminar rhieni a fydd yn cael ei chynnal gan Bullies-Out a PC Lloyd (swyddog cyswllt heddlu'r Ysgol). Bydd y seminar yn cynnwys hyfforddiant, trafodaethau a chyngor ymarferol ar faterion yn ymwneud â bwlio. Bydd y seminar yn cael ei chynnal ar ddydd Iau 30/01/20 rhwng 16:00 - 17:15. Os ydych chi'n dymuno mynychu'r seminar ar gyfer rhieni, cwblhewch y ffurflen isod. |
Newyddion >