Mae Mrs Marian Rees yn ymddeol ar ôl un ar bymtheg o flynyddoedd fel athrawes Gwyddoniaeth, Saesneg ac Anghenion Dysgu Ychwanegol yn yr ysgol. Ers iddi fod yn Rhydywaun mae hi wedi cynorthwyo cannoedd o ddisgyblion a defnyddio ei hamseroedd egwyl a chinio i redeg cynlluniau megis Clwb Successmaker a'r Cynllun Darllen. Fe wnaeth disgyblion y Cynllun Darllen drefnu parti brecwast i Mrs Rees i ddiolch iddi. Pob dymuniad da i chi yn y dyfodol! |