Mae Ysgol Gyfun Rhydywaun eto’n dathlu cyfres dda o ganlyniadau safon Uwch eleni. Enillodd pob myfyriwr a gofrestrwyd am ddwy lefel A neu’n fwy raddau pasio ac roedd y gyfradd basio unwaith eto dros 97%. Roedd canlyniadau galwedigaethol hefyd yn dda iawn, gyda’r holl gyrsiau’n nodi cyfradd basio 100%. Dywedodd y Pennaeth, Mark Jones, “Mae’r myfyrwyr wedi gweithio’n dda unwaith eto ac mae bron pob myfyriwr wedi ennill lle yn eu Prifysgolion dewisol. Diolch yn fawr i bawb am eu gwaith caled a’u hymrwymiad. Dymunwn y gorau i’r holl fyfyrwyr yng ngham nesaf eu gyrfaoedd.” Dyma rai cyraeddiadau nodweddiadol: Iori Kent cafodd 2A*, A, 2B ynghyd â gradd A mewn Mathemateg Bellach AS. Jamie Evans A*, A, B, C a gradd A ym Mathemateg bellach AS, Charlotte Morris A*, 2A, D a gradd B ym Mathemateg bellach AS, Molly Sedgemore A*, A, 2B Ffion Cudlip 2 Anrhydedd*, 2B, C Hannah Smith 2A, 2C |
Newyddion >